CLWB MYNYDDA BETHESDA
                                Bethesda Mountaineering Club

Mae Clwb Mynydda Bethesda, fel mae'r enw yn awgrymu, yn glwb mynydda lleol. Mae gennym ar hyn o bryd aelodaeth o ryw 30 - 35. Mae'r mwyafrif yn dod o Fethesda ond mae gennym aelodau o Sir Fon, Lerpwl ac Swydd Efrog hefyd. Bydd y Clwb yn cymryd rhan mewn bob math o weithgareddau mynydda i blesio pawb e.e dringo ar graig neu rhew, teithiau cerdded o 8 - 9 awr, rhedeg mynydd, campio a hefyd teithiau achlysurol i'r Almaen, Lloegr, Iwerddon a rhannau eraill o Ewrop. Byddwn yn cyfarfod bob dydd Sadwrn y tu allan i'r siop Spar yn y Stryd Fawr am 9.00am lle bydd y daith am y diwrnod yn gael ei phenderfynu - efallai yr hoffwn fynd ar y Carneddau neu'r Glyderau, neu weithiau fynd tipyn bach pellach tu ag at y Rhinogydd neu Gader Idris. Mae pob dydd Sadwrn yn darfod hefo rhyw beint bach lle cawn siawns i gael sgwrs hefo'n gilydd a hel clecs am bawb arall yn y Clwb. Mae gennym gylchlythyr o'r enw Llais y Mynydd sydd yn dod allan bob chwarter.
Os ydych yn hoffi mynydda dowch allan hefo ni, cewch groeso cynnes ac wir i chi, mae'r y golygfa o'r copaon yn werth y holl ymdrech.

Back to Introduction

          Back to homepage