Calon Lan

Nid wy'n gofyn bywyd moethus
Aur y byd na'i berlau mān
Gofyn rwyf am calon hapus
Calon onest, calon lān.

Calon lān yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Does ond calon lān all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Pe dymunwn olud bydol
Chwim adenydd iddo sydd
Golud calon lān rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.

Calon lān yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Does ond calon lān all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cān
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad
Roddi imi galon lān.

Calon lān yn llawn daioni
Tecach yw na'r lili dlos
Does ond calon lān all ganu
Canu'r dydd a chanu'r nos.

 

 

(c) David J Williams