Ym mhalas Llwyn Onn gynt, fe drigai pendefig,
Efe oedd ysgweiar ac arglwydd y wlad;
Ac iddo un eneth a anwyd yn unig,
A hi nôl yr hanes oedd aeres ei thad.
Aeth cariad i'w gweled yn lân a phur lencyn,
Ond codai'r ysgweiar yn araf ac erch,
I aethu'r bachgennyn, ond gwyrodd ei linyn,
A'i ergyd yn wyrgam i fynwes ei ferch.
Rhy hwyr ydoedd galw y saeth at y llinyn
Â'r llances yn marw yn welw a gwan;
Bygythiodd ei gleddyf trwy galon y llencyn,
Ond ni redai cariad un fodfedd o'r fan.
Roedd golud, ei darpar, yn hen ac anynad,
A geiriau diwethaf yr aeres hardd hon,
Oedd, 'Gwell gennyf farw trwy ergyd fy nghariad
Na byw gyda golud ym mhalas Llwyn Onn.'
Y lloer oedd yn codi dros gopa'r hen dderwen
A'r haul a fachludai i ddyfnder y don.
A minnau mewn cariad a'm calon yn curo,
Yn disgwyl f'anwylyd dan gysgod Llwyn Onn.
Mor wyn y bythynnod gwyngalchog ar wasgar
Hyd erchwyn cyfoethog mynyddig fy mro:
Adwaenwn bob tyddyn, pob boncyff a brigyn
Lle deuai cariadon i rodio'n eu tro.
Mor hir y bu'r disgwyl o fore hyd noswyl,
Mor gyndyn bu'r diwrnod yn dirwyn i ben:
A minnau mor hapus, ac eto mor glwyfus,
A'm meddwl a'm calon yn eiddo i Gwen:
Cysgodion yr hwyr oedd yn taenu eu cwrlid,
A hir oedd ymaros ar noson fel hon;
Ond pan ddaeth fy nghariad cyflymai pob eiliad,
Aeth awr ar amrantiad, dan gysgod Llwyn Onn.