Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref
Hanes y Gymdeithas
Home

Plannwyd egin y Gymdeithas drwy weledigaeth dau o’r ardal – Paul Sambrook a Dave Jenkins. Erbyn Hydref 2005 roedd cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu trefnu yn Nhafarn y Butchers. Cyfarfu pobl leol ynghyd â rhai a sefydlodd yn yr ardal i ddarganfod hanes am eu cartrefi a’u cymdogaeth.
Erbyn 2006 roedd aelodaeth y grwp wedi codi i 20 a phenderfynwyd cydweithio drwy gasglu lluniau i ychwanegu at y casgliad gwreiddiol. Cyn hir roedd digon o luniau i’w sganio i wneud cryno ddisg (DVD) a’u gwerthu am £5 yr un. Bu’r fenter yn boblogaidd gyda digon o adnoddau i gynhyrchu dwy ddisg arall. Cyn bo hir roeddynt wedi eu dosbarthu ymhell ac agos.
Sut bynnag, er chwilota a holi dyfal, mae un llun ar goll – llun yn dangos unrhyw agwedd o’r hen Ffair Feigan – y ffair nodedig a gynhaliwyd yn flynyddol yn Eglwyswrw tua diwedd mis Tachwedd. Os gall unrhyw un lenwi’r bwlch buasem yn falch petaech yn cysylltu a ni.
I gofio Ffair Feigan penderfynwyd trefnu achlysur penodol. Cynhaliwyd Dydd Agored yn Yr Hen Ysgol ar 24ain o Dachwedd 2007, gydag arddangosfa o arteffactau, lluniau, mapiau, llyfrau cyfeirio a llyfrau lloffion. Bu’n ddiwrnod o lwyddiant ysgubol a gododd broffil y gymdeithas.
Yn ystod misoedd cynnar 2008 cytunwyd i ymgymryd a menter heriol – cynhyrchu llyfr o atgofion ein bro mewn hanesion a lluniau. Bu cywain, didoli a chyflwyno cynnyrch am bron ddwy flynedd. Yna lansiwyd y llyfr ymysg canmoliaeth uchel ar 12fed Rhagfyr 2009..

 

Mae rhan fwyaf o'r llyfrau wedi eu gwerthu gyda chanran wedi eu dosbarthu dros Brydain a thramor i deuluoedd sy’n ymchwilio eu gwreiddiau.
Ffynnu o nerth i nerth yw hanes y Gymdeithas. Mae aelodaeth rhan fwyaf o flynyddoedd tua 30 - 40. Bu bri ar wrando ar hanesion a phrofiadau siaradwyr gwadd yng nghyfarfodydd cyson yn Nhafarn y Butchers a’r Hen Ysgol.
Trefnir ymweliadau i leoedd megis y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, Gerddi Aberglasney, ac wrth gwrs i Amgueddfa Werin San Ffagan. Bu siwrneiau nes adref diddorol megis teithiau cerdded i Garnedd Meibion Owen a gallt Tycanol ac ymweliad cofiadwy dros y ffin i Sir Gâr i’r Eglwys Eidalaidd yn Henllan. Rhaid peidio anghofio hefyd y pleser o droedio llwybrau a darganfod atyniadau lleol o fewn ein pentref - Eglwyswrw.
Dros y blynyddoedd mae'r Gymdeithas wedi parhau ei gwaith o gasglu a chofnodi hanes yr ardal. Rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn rhoddion o ddogfennau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â hanes lleol. Mae yna bob amser brosiectau ar y gweill. Y mwyaf amlwg oedd y prosiect Brodyr James, wedi ei enwi felly gan mae hyn oedd y cyntaf mewn gyfres o brosiectau mae'r Gymdeithas wedi derbyn Grant y Loteri sylweddol ar eu cyfer.
Yn Chwefror 2013 cynhaliodd y Gymdeithas weithdai yn y Fferm Ceffylau Gwedd, fel rhan o'r brosiect Brodyr James a’i reolir gan Rheinallt James, lle roedd plant o bob oed a gallu wedi cael y cyfle i ddefnyddio offer o gyfnod Howard a Herbert James o Arberth a adeiladodd ac yna hedfan eu ‘Caudron Biplane' gan mlynedd yn ôl.
Bu’r plant yn gweithio ar ‘propeller’, a gwneud helmedau hedfan o ledr yn ogystal ac adeiladu cyfarpar stêm ar gyfer plygu pren. Yr oedd yn hyfryd i weld pobl ifanc yn defnyddio hen offer oedd ar gael yn amser y Brodyr James, gyda llawer yn dangos lefel dda o sgiliau. Yn yr ail weithdy roedd hyd yn oed mwy o bobl yn cymryd rhan.
Rydym yn parhau i ymweld â safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, Canolfan Dreftadaeth Gwyr, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, Castell Aberteifi, Eglwys Manordeifi, Caer Oes yr Haearn, Castell Henllys, Amgueddfa Cwryglau Cenarth i enwi ond ychydig.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi canolbwyntio ar lefydd o ddiddordeb hanesyddol yn Sir Benfro.
Rydym wedi mynychu cyfarfodydd ar gyfer 'Aelodaeth o Gymdeithasau Hanes' yn Llyfrgell Hwlffordd i wrando ar ddarlithoedd o amrywiaeth o bynciau yn gysylltiedig â hanes. Yn anffodus mae'r rhain wedi dod i ben.
Ddangosodd y Gymdeithas fodel o awyren y Brodyr James, gyda efelychydd yn Eisteddfod yr Urdd 2013 ym Moncath, a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014, yn Llanelli, mwynhawyd hefyd teithiau i lefydd a oedd yn gysylltiedig ag awyrennau.
Y mwyaf cofiadwy oedd ein hymweliad i ‘Control Tower, Carew’ lle disgrifiodd y gwirfoddolwyr brwdfrydig sut oedd bywyd amser y rhyfel yn R.A.F. Carew a hynny mewn modd difyr, diwrnod fydd oedolion a phobl ifanc fel ei gilydd yn cofio am amser hir i ddod.Hefyd roedd ymweld a Ymddiriedolaeth Sunderland yn Noc Penfro yn brofiad gwych.
Yr ydym wedi helpu haneswyr teuluol o’r wlad hon a thramor a wnaeth gysylltu â'r Gymdeithas gydag ymholiadau am eu cyndeidiau a oedd wedi byw yn yr ardal hon.
Rydym wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i siaradwyr galluog iawn sydd wedi siarad ar bynciau amrywiol megis Castell Aberteifi, Y Cardi Bach, Barwniaeth Cemais a Threftadaeth Forwrol Gorllewin Cymru i enwi dim ond rhai.
Yn ystod y blynyddoedd rydym wedi coffáu Ffair Feigan gyda noson o ganu yn y Butchers Arms. Byddwn yn coffau’r Ffair eto yn y dyfodol.
Bu y Gymdeithas yn gweithio gyda phartïon eraill i godi Cofeb Rhyfel ar gyfer Eglwyswrw a'r ardal gyfagos. Mae pump ar hugain o bobl yr ardal wedi marw mewn rhyfel, yn bennaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ein bwriad oedd codi cofeb er cof am y dynion hyn erbyn canmlwyddiant dechrau Ryfel Byd Cyntaf.
Cafodd gwasanaeth Goffa a Chysegru y Gofeb newydd ei gynnal yn Eglwys St Cristiolus, Eglwyswrw ar Ddydd Sul y 10fed o Awst, 2014.
Tua'r un amser dechreuodd y Gymdeithas prosiect arall i gofio'r ddau fachgen, sef Milton Jones a Donald Pritchard a bu farw mewn damwain ar y Preseli yn 1944, pan wnaeth y bechgyn drin neu symud ordnans milwrol a ffrwydrodd, gan ladd y ddau.
Roedd gan y prosiect hwn sawl agwedd yn anelu i helpu pobl ifanc fod yn ymwybodol o hanes lleol yn ogystal â hanes rhyfel.
Cynhaliwyd gwasanaeth ar Awst 31ain 2014 i ddadorchuddio plac er cof am y ddau yng nghapel Seion Crymych gyda phlant yr Ysgol Sul yn cymryd rhan flaenllaw.
Mae llwyddiant y Gymdeithas yn ganlyniad o waith caled yr aelodau a'r gefnogaeth gan y gymuned ac o ymhellach i ffwrdd.
Yn 2017 cafodd y Gymdeithas y fraint i weithio ochr yn ochr ag eraill ar brosiect i gofio
Y Parchg. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), un o feibion enwog Gogledd Sir Benfro.
Gweinidog y Bedyddwyr, Bardd, Darlithydd ac Awdur.
Ganwyd mewn bwthyn bach ar ymyl llethr gogleddol bryniau'r Preseli ym 1836, manteisiodd ar yr ychydig addysg leol a oedd ar gael. Er fod llawer o weinidogion wedi eu magu yn ardal a elwir yn lleol fel 'Rhos Glynmaen', ef oedd y mwyaf enwog.
Rydym yn ddiolchgar am yr holl gymorth a gawsom ar y prosiect hwn o sawl ffynhonnell wahanol.
Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 21ain 2017 am 1.30yp, cynhaliwyd Gwasanaeth o Werthfawrogiad  - a Seremoni Dadorchuddio  Carreg Goffa Myfyr Emlyn yng Nghapel Bethabara, Pontyglasier, gan gynnwys peth o'i waith yn Gymraeg ac yn Saesneg, Cerddi, Emynau a Chaneuon.
Mae ein gwaith yn parhau.

 

Gartref   Home