Cymdeithas Treftadaeth Eglwyswrw a'r Fro

Eglwyswrw and District Heritage Society

Gartref   Home

Hanes Teulu neu unrhyw ymholiadau eraill

Os oes gennych ymholiadau hanes teuluol, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r cyswllt e-bost.

eglwyswrwheritage@gmail.com

Byddwn yn cyhoeddi holl ymholiadau yn yr adran hon o’r wefan.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am unrhyw un o’r canlynol.

FH001.
Hynafiad - Thomas Thomas g1844 ym mhlwyf Eglwyswen (Whitechurch). Priododd Margaret Davies yn mis Mai 1869; ganwyd hi yn 1842 ym mhlwyf Llandudoch (St Dogmells). Unrhyw wybodaeth am rhieni Thomas neu Margaret os gwelwch yn dda..

FH002.
John Devonald a aned yn Eglwyswrw yn 1817. Yr oedd yn anghydffurfiol. Roedd yn fab i David Devonald o Nanhyfer. Priododd Elizabeth Morris yn Capel Ebeneser, merch Stephen Morris o Nanhyfer.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH003.
Thomas Nicholas g 1854 a’i wraig Hannah Phillips a gladdwyd yn Glanrhyd, Llantood.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH004.
James Beddow g 1779; - Llantood, m 1863 - Ty Newydd (bellach Plas Preseli) Brynberian a’i wraig Hannah g 1783.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH005.
Thomas Nicholas g 1794 - Ravel, Meline a Mary (ei wraig - g Bridell?)
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH006.
Morris Griffiths a’i wraig Esther (ganedig Phillips) c1800 – Bridell.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH007.
Daniel Morgan g 1846 – ‘Whitchurch’, Caerdydd a’i wraig Anne (ganedig Evans) (gallai fod yn ferch i weinidog gyda’r Bedyddwyr - Pentyrch Caerdydd).
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH008.
Benjamin Lewis g 1801 - Llangoedmor.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH009.
Elizabeth (Bet) Lewis, Penrhywbroyan, g 1848 – Llantood. Ymfudodd i Awstralia, (ffermio ffrwythau o bosibl yn ‘New South Wales’).
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth.

FH010.
Rwyf yn ceisio sefydlu cyswllt rhwng y Parch Titus Lewis, Blaenwaun a Chaerfyrddin, ac Lewis Morris, Penrhywbroyan, Llantood, a anwyd yn 1819. (dogfennau teuluol yn dweud eu fod yn gysylltiedig).
Byddaf yn falch o unrhyw help.

FH011.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Benjamin Rees, [Bench] a oedd yn yrrwr injan stêm ar gyda James, Frochest, Eglwyswrw yn y 1930au.
Hefyd o B.O. Davies contractwr injan stêm a dyrnu o Llandudoch. Gwerthfawrogwn unrhyw luniau sy'n gysylltiedig a injan stêm neu contractwyr dyrnu.

FH012.
Unrhyw wybodaeth am Edward Davies, ganwyd tua 1771. Credwn ei fod wedi treulio ei holl fywyd yn Eglwyswrw. Ei broffesiwn oedd Ysgolfeistr, hefyd unrhyw wybodaeth am ysgolion efallai ei fod wedi gweithio ynddynt oddeutu 1820 – 1840.

FH013.
Roedd Daniel ac Anne Evans a’u plant yn byw ym mhentref Eglwyswrw ar adeg Cyfrifiad 1841,. Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth lleol am y teulu hwn.

FH014.
Roedd Thomas Morgan Jones a Henrietta Niagara Jones (nee Thomas) yn byw yn y Ficerdy, Eglwyswrw ar adeg Cyfrifiad. 1881 a 1891. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth amdanynt boed yn enwau llawn, dyddiadau geni, neu straeon personol am y teulu.

FH015.
Wnaeth Joseph Phillips, ynghyd a’i wraig, Mary, a thri o’r plant hynaf, adael Cymru rywbryd rhwng 1751 a 1754 ac ymsefydlu yn “Pennsylvania”.
Yn 1763, priododd y plentyn hynaf, David, a Mary Thomas (ganed Mary yn Sir Benfro yn1743 ). Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth o Gymru i wneud a’r teulu hyn.

FH016.
Roedd Joshua Morris yn byw yn Eglwyswrw ac yn gweithio fel adeiladydd cychod. Yn 1850au symudodd i “Penarth” (gyda aelodau eraill o’r teulu) i adeiladu tai. Mae’n hysbys iddo gael ei eni yn Fferm Cwmcenau ym mhlwyf Nanhyfer ar Fai 12fed, 1811. Byddwn yn gwerthfawrogi gwybodaeth am y teulu hyn.

FH017.
Gwerthfawrogwn unrhyw luniau neu wybodaeth am Thomas Jenkins a/neu ei ferch Mary E Jenkins a oedd yn byw yn Allt y Ddol, Eglwyswrw tua 1900-1910.

FH018.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Daniel Edwards neu ei frodyr William a John, bu y teulu yn ffermio Croesyforwyn Uchaf, Eglwyswrw yn y 1940au.

FH019.
Rwy'n edrych am unrhyw wybodaeth am y teulu Bevan. Roedd gan James Bevan a'i wraig Mary blant - Evan, Elizabeth, Thomas, Albert ac Oliver. Bu Mary farw yn 1895, a Priododd James a Rachel Rees. Byddem yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth ar y teulu hyn.

FH020.
Ganwyd Capten John Grono - 1 Ionawr, 1767 yng Nghymru (Trefdraeth), roedd ei dad sef Joel Grono wedi ei eni yng Nghymru yn 1740. Byddai unrhyw wybodaeth sydd ar gael yn wych.

FH021.
Yr wyf yn ceisio enw tad Benjamin BOWEN. Mae ei fam wedi ei restru yng Nghyfrifiad 1841, ei enw oedd Maria, g1791 yn Eglwyswrw. Roedd gan Benjamin frodyr a chwiorydd - Jacob g1826, - Margaret g1828 a - John g1819, y rhai hyn wedi ei geni yn Eglwyswrw. Ymhen amser, symudodd Benjamin i Dowlais a phriodi Margaret HOWELL o Abertawe, ac yna aethant i America gyda 3 o blant.
Roedd Maria Bowen yn byw yn Pantygarn yn 1841.

FH022.
Rydym yn chwilio am ffotograff o Syr William Howell Walters a anwyd yn ardal St Mary, Hwlffordd yn 1857. Daeth yn Uchel Siryf Sir Benfro yn 1898.

FH023.
Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth am Henry Howard James (g1892, Arberth) a'i frawd John Herbert James (g1894, Arberth). Dau beilot awyrennau cynnar.

FH024.
Rwyf yn credu fy mod yn perthyn i'r teulu Peregrine o Meline ac Eglwyswrw. Ni all hyn gael ei brofi yn gyfan gwbl gan fod ein Peregrine ni hefyd yn byw yn Llanycefn a Llandysilio, Sir Benfro o tua 1780au. Yn 1839 yn Swyddfa Gofrestru Arberth fe wnaeth Mary Peregrine o Llanycefn briodi Daniel Peregrine o Eglwyswrw. Roedd fy hen hen famgu sef Lettice Peregrine yn chwaer i Mary Peregrine.
Rwyf wedi clywed fod y Pergrines a ddaeth i Eglwyswrw ac ardaloedd eraill o Sir Benfro tua 1600 wedi dod o'r Iseldiroedd i ddianc rhag erledigaeth grefyddol naill ai gan y Brenin Ffrangeg neu Sbaeneg a oedd wedi concro’r Iseldiroedd. Eu bod naill ai'n Hiwgenotiaid Ffrangeg neu Walloons o Wlad Belg. Roedd y ddau o'r grwpiau hyn yn Brotestaniaid. Yr oedd y Devonalds a Marsdens o Eglwyswrw hefyd o Ffrainc / Gwlad Belg wedi cyrraedd y wlad hon tua 1600. Credir i’r bobl hyn ddod i Eglwyswrw drwy borthladd Aberteifi, a bod y rhan fwyaf ohonynt yn wehyddion.

FH025.
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am Caleb Evans a anwyd - Eglwyswrw 1751 neu ei ferch Elizabeth Protheroe anwyd - Eglwyswrw c 1790.

FH026.
Beibl Sarah Ann Thomas - sy'n dyddio 1857, gyda nodyn mewn llawysgrifen y tu fewn yn dweud – Glandwr, Cenarth.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth ar yr uchod neu'r teuluoedd - Thomas; - Rees neu Jenkins a oedd yn byw yn yr ardal honno yn ystod y cyfnod hwnnw.

FH027.
Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r canlynol - Lydia Reynolds, g1845 - Plwyf Cilgwyn, Nanhyfer, - Rhieni oedd - James ac Anne, - brodyr a chwiorydd - Asa; Hanah; Daniel; Eliza a Lettice.
Roeddent yn byw yn Penparke ger Brynberian, Sir Benfro yn 1851.
Priododd Lydia John Williams, roedd ganddynt blant Minnie a Joseff a anwyd yng Nghasnewydd, Sir Fynwy.

FH028
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth am deulu - Thomas REES a anwyd yn mhlwyf Meline, sir Benfro yn 1774, wnaeth yn gynnar yn ei fywyd (c1791) gymryd rhan weithredol yng Nghapel Annibynwyr Brynberian.
Mae Thomas REES wedi ei gladdu yn Nghapel yr Annibynwyr yn Huntington, lle'r oedd am amser hir yn weinidog ac ysgolfeistr.

FH029
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw wybodaeth am deulu - John a Mary Davies, a fu'n byw yn
Croes y Forwyn a Pencwm.
Mae eu bedd yn mynwent Capel y Bedyddwyr - Ebeneser Dyfed.
Bu farw JOHN DAVIES - 11 Tachwedd, 1905 yn 77 mlwydd oed.
Bu farw MARY DAVIES - 4 Ebrill, 1911 yn 76 mlwydd oed.
Cyfenw Mary cyn iddi briodi oedd Evans a'i theulu yn byw yn Bancau Bach, Eglwyswrw.

FH030
Rydym yn chwilio gwybodaeth am y teulu Watkins, thafarnwyr y Serjeants Inn, Eglwyswrw drwy'r rhan fwyaf o'r 19eg ganrif.
Byddai unrhyw wybodaeth am unrhyw dafarnwyr eraill yn Eglwyswrw yn cael ei werthfawrogi'n fawr.


FH031
Byddai unrhyw wybodaeth wrth ddisgynyddion teuluoedd a wnaeth darddu, neu byw yn ardal Eglwyswrw yng ngogledd Sir Benfro sydd bellach yn byw mewn rhannau eraill o'r byd fod o ddiddordeb mawr i'n Cymdeithas. Gwerthfawrogwn unrhyw hanes. Diolch.

FH032
Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda ar John Thomas c1779 - 1866 o Nanhyfer a Threfdraeth, Sir Benfro.
Bu John yn gwasanaethu yn y fyddin, ac roedd yn Quebec yn 1816.
Roedd yn siopwr yn Nhrefdraeth ar adeg cyfrifiad 1841 a 1851.
Ei wraig oedd Margaret, dau o'u plant oedd Eleanor ac Elizabeth, efallai roedd mwy!

 

Gwerthfawrogwn unrhyw wybodaeth neu sylwadau ynghylch y cofnodion uchod.


Unrhyw wybodaeth os gwelwch yn dda am unrhyw un o’r uchod.
.

 

Gartref eglwyswrwheritage@gmail.com Home