Croeso i Wefân yr Ofalaeth

 Hanes Eglwys Bethabara

bethabarachapel‘Wrth edrych yn ôl dros ysgwyddau y blynyddoedd nid ydym yn honni bod yr hanes yn gyflawn, nac ychwaith yn rhydd oddi wrth frychau. Hyderwn, er hynny, y bydd yr ymdriniaeth yn beth esboniad ar y gorffennol, ac yn ysbrydiaeth i’r dyfodol. “Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl; a’r bobl a enir a foliannant yr Arglwydd” Gelli’r hogi ein cleddyfau ar gerrig beddau y saint ar gyfer brwydrau bywyd. “Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai a ddilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.” Bodola yr eglwys nid er mwyn ei hun, ond er mwyn dwyn y byd at Grist, a sefydlu Teyrnas Dduw ar y ddaear.
Ofer yw disgwyl “daear newydd” heb i ni gael “nefoedd newydd” yn gyntaf. hbthomas
Y mae seiliau ysbrydol cymdeithas ddelfrydol yn gorwedd ar wybodaeth, cyfiawnder, ffydd, gobaith a chariad.’

[Geiriau y Parch H.B Thomas o Hanes Eglwys Bethabara, 1926]

Saif capel Bethabara ym mhentref Pontyglasier, plwyf Eglwyswen. Mae hanes ar glawr i ddangos bod Bedyddwyr yn addoli yn fferm Cilcam, Eglwyswen, mor gynnar â 1692. Yno y corffolwyd eglwys Cilfowyr yn 1704, ond symudodd y frawdoliaeth i Gilfowyr yn 1716 ac nid oes llawer o hanes am Fedyddwyr yn y cylch wedi hynny, ar wahân i deulu Thomas Evans, Ffynnonadda, Meline, gwr a fu farw yn 1785.

Yn 1787, daeth Thomas Rees, aelod yng Nghilfowyr, i fyw ym Mirianog Fawr, Meline. Cynhaliwyd ambell i gyfarfod yn ei gartref ac, yn 1804, cytunodd gyda Timothy Jenkins, Coedcefn-las, Eglwyswen, a Lewis Evans, mab Thomas Evans, Ffynnonadda, i drefnu cyfarfodydd gweddïo a phregethu yn y gymdogaeth.

Bu hyn yn symbyliad i wahodd pregethwyr i’r  ardal.

christmas_evansDaeth yr enwog Christmas Evans ei hun yn 1806, ac yn fuan gwelwyd cynnydd yn achos y Bedyddwyr yma.

Yn 1824, daeth un James Hermon i’r gymdogaeth ac annog y brodyr uchod i helaethu achos Crist. Penderfynasant adeiladu tŷ addoliad. Agorwyd y tŷ newydd Awst 3ydd, 1826. Ymhlith y rhai a gymerodd ran yn yr oedfaon agoriadol, cawn rai o enwau mawr yr enwad yn y cyfnod hwnnw - megis y Parchedigion John Morgans, Blaenffos; Simon James, Penrhyn-coch;

W.R Davies, Ebeneser Dyfed a John Williams, Trosnant. Y cyfarfod cymundeb cyntaf a gynhaliwyd yma oedd Hydref 15fed, 1826, pan fedyddiwyd un Rachael Evans, (Fountain Hill) gan y Parch William Havard, Jabes, a gweinyddodd John Morgans, Blaenffos yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Corffolwyd yr Eglwys yn 1827 a derbyniwyd hi yn aelod o’r Gymanfa a gynhaliwyd ym Mlaenffos yn 1827. Cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch John Morgans, Blaenffos rhwng 1827 ac 1843.

Un o’r cymeriadau amlycaf a fu’n gysylltiedig â Bethabara yn ystod hanner canrif gyntaf ei hanes oedd y Parch Benjamin Thomas (1836-93), gwr a fagwyd yn Nhy-rhos, Eglwyswen. Fe’i adwaenwyd yn well yn ôl ei enw barddonol - sef Myfyr Emlyn.

 Roedd ymhlith y doniau mwyaf a fagwyd yng Nghymru. Mae ganddo emyn gafaelgar yn y Llawlyfr Moliant (458). Yn sgil ymadawiad John Morgans yn 1843, daeth John Morris, bethabara1910Llangollen i bulpud Bethabara (1843-49). Dilynwyd ef gan Isaac Jones, Pandy’r Capel (1854-60) a Dafydd Price, Blaenffos (1860-79). Diolch i ymdrechion Dafydd Price, adeiladwyd y capel presennol yn 1873. Yna daeth y Parchedigion Joseph Evans, Nantyglo (1879-87) a W.J. Lewis, Athrofa Pontypwl (1892-99). Roedd y capel heb weinidog am gyfnod wedi hynny ac yng ngofal W.Griffiths, Bethel, Mynachlog-ddu ac Aaron Morgan, Blaenffos.                     

Yn 1902,sefydlwyd y Parch Robert Griffiths (1902-11).

Cafwyd cyfnod sefydlog o dan weinidogaeth y Parch H.B. Thomas a ddaeth o Sir Forgannwg yn 1911. Cofir amdano o hyd fel dyn da a duwiol. Yn 1926, cynhaliwyd Cyfarfodydd Canmlwyddiant, ac i nodi’r achlysur, cyhoeddwyd Hanes yr Achos ymhbthomas1916 Methabara ganddo.

Bu farw H.B. Thomas yn 1934, ac yna cafodd Lewis Young Hayden alwad i

Fethabara.

Fe’i ordeiniwyd ef yn weinidog ar yr eglwys ym 1937.

younghaydnCafwyd cyfarfodydd ordeinio bendithiol iawn. Ymhlith y pregethwyr oedd y Parchedigion Jubilee Young, O.M Young ac L.Glasnant Young.

 

Cafwyd 23 mlynedd o wasanaeth clodwiw gan y Parch Lewis Young Hayden ac yna cafodd alwad i’r Felinganol, Solfach.diaconiaid1955 Cyfrifid ef yn un o bregethwyr mawr ei ddydd a bu galw mawr am ei wasanaeth uchel wyliau a chymanfaoedd Cymru.

 

 

 

 

 

Yn 1961, agorwyd pennod hynod yn hanes Bethabara, pan arthurjonesordeiniwyd y Parch Arthur Jones, brodor o Fethesda yn Arfon, yn weinidog. Roedd yn bregethwr cymeradwy, ac yn fugail pen y gamp. Yn ystod eiysgolsulbb weinidogaeth, cynyddodd aelodaeth Bethabara i dros 200 am y tro cyntaf yn hanes yr eglwys. Bu farw y Parch Arthur Jones yn sydyn , Medi 17eg, 1985. Cofir yn hir am y bugail ffyddlon hwn yn y fro.

Cynhaliwyd oedfa arbennig iawn ym Methabara nos Fercher, Hydref 15fed, 1986 - sef Cyfarfod Uno ag eglwysi Bedyddiedig Ebeneser, Penuel a Phenybryn; a sefydlu’r

trjonesParch T.R. Jones yn weinidog ar y bedair eglwys. Llywyddwyd y cyfarfod gan un o blant Bethabara - sef y Parch George John, Llandysul, ac roedd y Parchedigion Alwyn Daniels, Dinas; Eirian Wyn Lewis, Bethel, Mynachlog-ddu; a William Harry, Eglwyswrw, yn cymryd at y rhannau defosiynol. Cafwyd Hanes yr Alwad gan Mr Jestyn Edwards ac offrymwyd yr Urdd Weddi gan y Parch J. Neville James, Llandysul. Cyhoeddwyd y Fendith gan y Parch Emyr Gwyn Evans, Brynberian.

Yr oedd y Parch T.R. Jones yn deilwng iawn o’i ragflaenwyr. Yn bregethwr coeth, yn fardd ac yn feirniad cenedlaethol. Gwelir nifer o’i emynau yn Mawl ac Addoliad a’r llyfr emynau cyd-enwadol Caneuon Ffydd. Bugeiliwyd yr eglwys am fron ugain mlynedd - hyd at ei farwolaeth ar Fedi’r 6ed, 2006. Cofir amdano’n bennaf fel pregethwr huawdl, a hefyd yn fardd ac emynydd cynhyrchiol.


[Rhown ddiolch i Mr Paul Sambrook am y manylion uchod a ddaw o lyfryn Cylch Cemaes, Penfro.]

 Ar ôl cyfnod heb weinidog, ffurfiwyd gofalaeth newydd o’r bedair eglwys, mewn pwyllgor, a gynhaliwyd ym Methabara, nos Lun, Chwefror 7fed 2005. Dangosodd pawb a oedd yn bresennol, yn unfrydol, trwy bleidlais agored, eu bod nhw’n awyddus i symud ymlaen, a phenderfynwyd y noson honno hefyd, bod hysbyseb i ymddangos ym mhapur yr enwad “Seren Cymru”, am ein hawydd cryf, fel cylch o eglwysi, i alw gweinidog i’n harwain. Felly, dyma gymryd y cam cynta’ - cam sicr a phendant tuag at y dyfodol.

Trefnwyd oedfa undebol arbennig i nodi’r uno a bodolaeth yr ofalaeth newydd, gogyfer â Ionawr 8fed 2006, gyda’r diweddar Barchedig T.R.Jones yn pregethu. Cafwyd oedfa fendithiol a chalonogol, gyda neges y bregeth yn bwrpasol i’r achlysur.

Yn y pwyllgor dilynol, trefnwyd nifer o Suliau undebol e.e. Y Groglith a’r Pasg; oedfaon mis Awst; y Nadolig; a chyrddau Blynyddol y bedair eglwys - felly, dyna gam pendant arall i’r bedair Eglwys - a dyna mewn gwirionedd, oedd dechrau ar y daith o fod yn un cylch, ac yn un Ofalaeth.

Oherwydd bod ymateb i’r hysbyseb yn “Seren Cymru” wedi profi’n llugoer, penderfynwyd mewn pwyllgor ar Fawrth 20fed., 2006, i wneud ymholiadau gydag Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, i edrych am bosibiliadau o enwau, ar ein cyfer, i ni eu hystyried, o bosib, fel darpar weinidog. Ac yn wir, daeth yr Ysgrifennydd, sef y Parchedig Peter Thomas atom i’r pwyllgor nesa’, ac awgrymodd ein bod yn ddiymdroi, yn estyn gwahoddiad i Roger Thomas Morgan, a oedd ar y pryd, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd. Felly, estynnwyd gwahoddiad iddo i bregethu yn y cylch. Daeth y Parch a’i briod Sheila i bregethu yn ystod mis Awst 2006 yng Nghapel Seion Crymych.

Bu pwyllgora cyson yn ystod y flwyddyn 2007, ac Arolygwr Cymanfa Penfro, y Parchedig Eirian Wyn Lewis, yn bresennol mewn nifer o’r cyfarfodydd. Cafwyd eto gwmni’r Ysgrifennydd Cyffredinol, a chafwyd hanes am y pecynnau “ Yr Hedyn Mwstard”, ac “Ar Hyd Ffordd Arall” - sef dau becyn, a baratowyd, er mwyn cynnig strategaeth i Eglwysi. Ond yn anffodus, ni ddeilliodd rhyw lawer o ffrwyth o’r holl gyfarfodydd a thrafodaethau.

Profodd y flwyddyn 2008, yn fwy calonogol - roedd aelodau’r Ofalaeth yn dal yn awyddus iawn i gael gweinidogaeth, ac yn gweddïo’n daer am arweiniad a chymorth. Dyma enw’r Parchedig Roger Thomas Morgan yn dod i’r golwg eto yn ystod cyfarfod mis Ebrill, pan hysbyswyd yr aelodau bod Mr Emrys Thomas, Blaenffos, wedi sicrhau ei wasanaeth am yr ail dro, ar gyfer ddydd Sul, Mehefin 22ain. (2008) Cafwyd ymateb ffafriol a dymunol i’r Sul hwnnw, a braf yw gallu nodi bod pawb wedi eu boddloni gyda’r gwasanaeth, ac yn teimlo ei bod yn amser i symud ymlaen ac anfon galwad iddo. Roedd aelodau’r cyfarfod yn unfrydol o blaid. A dyna fel y bu !! Heb wastraffu dim amser, sgrifennwyd y llythyr, a phostiwyd yr amlen yn cynnwys yr alwad, gyda stamp dosbarth cyntaf arni !! Yn cyd-fynd â’r llythyr pwysig hwnnw, oedd ein gobeithion a’n gweddïau ninne fel gofalaeth.

Ac ar ddydd Sul, ynghanol mis Awst, 2008, estynnwyd gwahoddiad i’r Parchedig Roger ddod i Eglwys Blaenffos, i weinyddu’r ordinhad o fedydd. Cafwyd oedfa deimladwy ac effeithiol iawn, ac yn sicr, teimlwyd presenoldeb Duw. Yn goron ar weithgareddau’r bore hwnnw, fe wireddwyd breuddwyd aelodau’r Ofalaeth, pan wnaeth Y Parch Roger Morgan, ar lafar, dderbyn yr alwad yn gadarnhaol, i ddod atom i’n bugeilio yn yr Arglwydd Iesu Grist.rtmorgan

Penderfynwyd cyhoeddi’r newydd da mewn oedfa undebol, y Sul canlynol, a chawsom y fraint o gynnal pwyllgor yng nghwmni Roger a Sheila, a’r Parch. Peter Thomas, mis Medi, pan fynegodd Ysgrifennydd yr Undeb ei falchder am drefniant cylch ein Heglwysi i’r dyfodol, a’i fod yn ymfalchïo bod yr alwad wedi’i hateb yn gadarnhaol. Dechreuodd y Parch Roger Thomas Morgan ar ei weinidogaeth ym Mhenybryn a’r cylch, ddiwedd Hydref.

 


Nol i'r top / Back to top of page
Am wybodaeth bellach cysylltwch a’r Parch Rhosier Morgan
- Ffôn  07896937858
For further imformation please contact Rev Rhosier Morgan - Phone  07896937858


E bost / E mail: rhosiermorgan@googlemail.com