Croeso i Wefân yr Ofalaeth

Hanes Eglwys Blaenffos

Blaenffos 2

Daw’r manylion canlynol allan o lythyr y diweddar Barch John Morgans at y Parch Shem Evans, Arnsby. Copiwyd fel y cofnodwyd yn wreiddiol.

Annwyl frawd, -

Wele i chwi hanes eglwys Blaenyffos, a’i dygiad yn mlaen. Yn y flwyddyn 1740, dechreuwyd cadw cwrdd prydnawn Sabboth ynCofiant John Morgan Abercerdin, yn nhŷ Lewis Thomas, tad Titus Lewis, un o weinidogion Cilfowir. Cedwid y cwrdd bob pythefnos. Yn y flwyddyn 1748, symudwyd i Flaenyffos, i dŷ annedd Dafydd Phillip. Bernir iddo barhau yno am 35 o flynyddau. Yna daeth deiliad newydd i’r tŷ, o’r enw James Richard; a chafwyd lle i farnu ar frys, nad oedd ef yn caru cael y cwrdd yn ei dŷ. Yna symudwyd i’r Morfa, i dŷ Nicholas Hitson. Bu yno tua dwy flynedd, nes adeiladwyd yr addoldy bychan cyntaf wrth y groesffordd, Blaenyffos. Tra y cynnaliwyd yr addoliad yn nhŷ Hitson, gwelodd Duw yn dda i lwyddo ei achos a chodi tystion dros y gwirionedd yn y gymmydogaeth; ond byddent yn cael eu bedyddio a’u derbyn yn Nghilfowir. Cafwyd caniatâd gan Lord Milford, gyda llawer o barodrwydd, fel y mae yr hanes, i adeiladu ar ei dir, a lês o 99 mlynedd, am dair pupren o rent blynyddol ar 32 llathen o dir yn bedeironglog. Bu y boneddig hefyd mor garedig â rhoddi dau gini at draul adeiladu y tŷ.

Yn mis Hydref, 1785, yr agorwyd y tŷ gyntaf, pan yr anrhegodd Lewis Thomas, y gweinidog, yr areithfa â Bibl newydd, yna gweddiodd. Wedi hynny pregethodd John Williams, Llangloffan, W. Williams, Aberteifi a Daniel John, Rhydwilym, ar yr achlysur. Yn mhen ychydig, aeth y tŷ yn rhy fychan; helaethwyd ef trwy godi croes yn 1791, a lloft yn y pen gorllewinol yn 1793. Adeiadwyd stabal yn 1797.

Dechreuwyd gweinyddu y cymundeb yn 1787, bob dau fis hyd 1794, yna yn fisol; ond yn y prydnawn o hyd, yr hyn oedd yn dra anghyfleus yn y gauaf. Yn mis Gorphenaf, 1794, bu farw Thomas Hitson. Yr oedd ef yn ddyn hynod fywiog ac mdrechol, ac yn bregethwr call a defnyddiol. Mawr oedd y golled, ond ei elw ef, iddo farw! Yr oedd y cwrdd gweddi nos Iau yn flodeuog yn eu amser ef, ac ysgol nos wythnosol i ddysgu plant a rhai mewn oed i ddarllen, (cyn fod son am Ysgol Sabbothol) yn cael ei chynnal trwy ei ddiwydrwydd; ond fe hedodd ymaith pan oedd yr achos yn dechreu blodeuo.

Gwanhaodd yr achos dros amser, trwy ymddygiad anweddus rhai; etto, byddai y gynnulleidfa yn lliosog ar y Sabbothau. Ond aeth y cwrdd gweddi ganol mis yn isel am amser; dim ond un hen wraig (Betty James) a minau amryw weithiau yn ei gynnal, a dyma y dull o’i gadw: yn ol aros am ryw amser, “Wel,” ebai yr hen wraig, “ddaw yma neb mwy heddy’! Dos, fy machgen bach, darllen bennod, a dos i weddi.” Minau a gydsyniwn. Wedi hyny, aros ychydig yn rhagor. “Wel,” ebai hi drachefn, “dos, darllen bennod etto, a dybena y cwrdd trwy weddi.” Yna ymadawem. Bu yn edifar genyf ganwaith na fuaswn yn hel yr hen wraig i weddi, canys yr oedd yn eithaf call, ac yr wyf yn credu ei bod yn arfer gweddio llawer.

Wele y canlyn yr ychwanegiadau a’r cyfnewidiadau yn y gymdeithas, oddiar hyny hyd yn bresenol.

Blynyddau

Bedyddiwyd

Adferwyd

Diarddelwyd

Marw

1791-1795

33

0

0

0

1796-1800

5

0

8

6

1801-1805

30

4

5

8

1806-1810

49

18

34

10

1811-1815

37

16

19

10

1816-1820

51

14

17

12

1821-1825

62

12

13

15

1831-1835

81

23

15

22

1826-1830

41

15

23

20

1836-1843

85

32

33

32

 

Un a fedyddiwyd gyntaf yn Mlaenyffos, yn y flwyddyn 1790, gan Dafydd Evan, hen weinidog Cilfowyr. Afon Nefern, yn ymyl Rhydwen, neu wrth felin Pantyderi, mwy nâ milltir oddiwrth y tŷ cwrdd, oedd Iorddonen Blaenyffos am flynyddau, yn gystal â Bethabara hyd heddyw.

Dyma i chwi, frawd, hanes eglwys Blaenyffos, o’r dechreu hyd yn bresenol, mor gywir ag y gallaf ei adrodd; ond gollyngwyd 29 i ffurfio eglwys Bethabara yn 1827 ac hefyd gollyngwyd 11 i Hermon a 5 i’r Star. Etto, pan aeth Blaenyffos ar ei phen ei hun yn fuan ar ol hyny, yr oedd dros 200 o aelodau yn y gymdeithas, heblaw rhai yn wasgaredig.

Yr wyf fi yn awr yn dechreu methu, ond dan rwymau mawrion i fod yn ddiolchgar am na bai yn llawer gwaeth arnaf ar fin y bedd. Wyf, yr eiddoch yn serchus,

John Morgans.

[Cofiant y Diweddar Barch John Morgans. Argraffwyd a chyhoeddwyd gan W. Jones, Heol Duc, Caerdydd, 1856]

Cyn Weinidogion

Dyma restr o weinidogion Eglwys Blaenffos ers 1827

John Morgan 1827 - 1849   John Salesbury Davies 1921 - 1948
J.D. Thomas 1850 - 1854   I. G. Lewis 1952 - 1956
David Price 1856 - 1876   William Jones 1958 - 1988
William M. Haddock 1879 - 1882   Meurig M. Thomas 1992 - 2003
John Thomas 1885 - 1892   R. Thomas Morgan 2008 -
Aaron Morgan 1892 - 1920  
       

 

Nid oes llun ar gyfer pob gweinidog ond dyma oriel weddol llawn

W M Haddock Aaron Morgan J S Davies I G Lewis William Jones Meurig Thomas
W.M. Haddock Aaron Morgan J S Davies I G Lewis William Jones  Meurig Thomas
Parch. R Thomas Morgan. R Thomas Morgan     Rev. R Thomas Morgan. 


Nol i'r top / Back to top of page
Am wybodaeth bellach cysylltwch a’r Parch Rhosier Morgan
- Ffôn  07896937858
For further imformation please contact Rev Rhosier Morgan - Phone  07896937858


E bost / E mail: rhosiermorgan@googlemail.com