Croeso i Wefân yr Ofalaeth

Hanes Eglwys Penybryn

Daw’r canlynol o law Mr Eilir Lewis. Gwelir ran o lythyr hir sydd yn dilyn datblygiadau’r achos cynnar gyda manyldeb. Y mae trefn y tecst - yn cynnwys y sillafu - yn dilyn y gwreiddiol.

“Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd yng nghymdogaeth y Bridell yn y flwyddyn 1790. Y ddau gapel agosaf i’r ardal hon yr adeg hynny oedd Blaenwaun ag Ebenezer, ac aelodau o’r eglwysi hyn fu yn gyfrwng i gychwyn yr achos ym Mhen Y Bryn. Cynhaliwyd y cyfarfodydd cyntaf yn Nhreleddyn isaf , neu Tiriet yn nhŷ  John Michael, un o ddiaconiaid Ebeneser, a gweinidog Ebenezer oedd yn cynnal y cwrdd hwn unwaith Festri Penybryn henbob mis. Cynhaliwyd cyfarfodydd eraill yn Nhwcsiencyn, yn nhŷ Evan Lloyd un o bregethwyr Ebeneser. Cwrdd Blaenwaun oedd hwn a phregethwyr Blaenwaun yn ei gynnal. Symudodd Evan Lloyd o’r ardal a bu’r symudiad hwn yn achos o symud y cyfarfod o Cnwcsiencyn i Penfeidr ar dir Ffynnoncoranau. Dywed hanes nad oedd y rhai oedd yn byw yno yn aelodau, ac mae drwy garedigrwydd ac ewyllys da teulu Ffynnoncoranau y cafwyd caniatâd i gynnal y cyfarfodydd yno unwaith y mis. Bydau’r fath dorfeydd yn ymegnïol i wrando fel y gorfyddi i bregethwyr bregethi oddi allan yn fynych, ac yr oedd hyn yn anghyfleus iddynt hwy ac i’r gwrandawyr, ac felly awyddau byd ac eglwys am dy addoliad. Penodwyd ar Ben Y Bryn fel lle tra addas, ac anodd fuasai cael man mwy cyfleus oblegid mai yma bedair ffordd yn cyfarfod at i gilydd, ac felly nid oes achos mynd drwy faes na gwinllan neb i gyrraedd y lle hwn.”

Dechreuwyd adeiladu capel Pen Y Bryn yn y flwyddyn 1818 ar Fai 14eg, ac agorwyd am y tro cyntaf flwyddyn yn ddiweddarach, ar Fai 13eg, 1819. Ty â grisiau o’r tu allan oedd yr adeilad cyntaf. Rhoddwyd y tir ar gyfer yr adeiladu gan Thomas Williams, Glanpwllafon, ar les o 5,000 o flynyddoedd a chafwyd hawl hefyd i fedyddio mewn cae o’r enw Parcgwyn, ger bont Glanpwllafon. Y gyntaf i gael ei bedyddio yno ar Fehefin 27ain, 1819, oedd Elizabeth Williams, gwraig perchennog y tir, a hithau yn 80 mlwydd oed. yn y flwyddyn ganlynol, cyflwynodd Thomas Williams gwpanau Cymundeb i’r capel hefyd. Bu’r eglwys yn gangen o gapel Ebeneser hyd 1833, ac ar yr adeg honno cafodd ei derbyn yn aelod o’r Gymanfa a gynhaliwyd yn Nhrefdraeth. Yr oedd yr eglwys o dan weinidogaeth y Parch W. R. Davies, a rhif yr aelodau oedd 65.

Yn dilyn ymadawiad y Parch W. R. Davies yn 1838, ac wedi amser hir o ddibynnu ar garedigrwydd eglwysi eraill, rhoddodd Pen Y Bryn alwad i’r Parchg Jesse Jones ym mis Gorffennaf 1841. Rhyw ddwy flynedd yn unig y bu yn yr ardal, ac ar ôl cyfnod pellach o fod heb weinidog, ailymunodd Pen Y Bryn gydag Ebeneser o dan weinidogaeth y Parch John Lloyd. Ymadawodd a’r ardal yn 1848, a dilynwyd ef gan y Parch Morris Evans, a oedd yn weinidog i Ben Y Bryn a Phenuel, Cilgerran. Ei gyflog ef oedd £25 y flwyddyn. Golygai hyn rhyw goron yr wythnos i bob eglwys.

O dan ei weinidogaeth ef, cynhaliwyd Cymanfa’r Sir am y tro cyntaf ym Mhen Y Bryn, ar 31ain o Fai, 1853. Yn ôl y cofnodion, “cafwyd cyfarfodydd hyfryd a dymunol”, a hyderwyd, “y byddai i fendith y nef ddilyn y gwirioneddau a draddodwyd.”

Y gweinidog nesaf i’w ordeinio oedd y Parch Simon Parry Jones, o Goleg Hwlffordd, ar y 29ain o Awst, 1855. Dyma’r tro cyntaf i’r eglwys gael gweinidog iddi hi ei hun. Yn anffodus, blinwyd ef gan afiechyd a bu farw ar yr 20fed o Fawrth, 1859. Claddwyd ef ym mynwent Pen Y Bryn.

Yn 1860, ailymunodd Pen Y Bryn a Phenuel, Cilgerran, o dan weinidogaeth y Parch Thomas Jones. Rhoddodd y Parch Thomas Jones y weinidogaeth i fyny yn 1866 ac ymddeolodd oddi wrth y Bedyddwyr i’r Eglwys Wladol. Cofnodwyd mai rhif yr aelodau y pryd hwnnw oedd 130, a bod 70 o ddisgyblion a 13 o athrawon yn yr Ysgol Sabothol. O ystyried nifer yr aelodau, hawdd yw ddeall fod y capel yn orlawn ar y Sul, a phenderfynwyd adeiladu capel newydd.

Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mawrth, 1869. Yr oedd y gwaith adeiladu dan ofal David Davies, Glanpwllafon, Saer Coed. Cyn i’r gwaith cael ei gwblhau, ordeiniwyd George Griffiths yn weinidog ym Mhen Y Bryn a Phenuel, Cilgerran yn 1871. Agorwyd y capel newydd ar ddydd Nadolig, 1871, a chynhaliwyd gwyl de i ddathlu’r achlysur . Yn yr hwyr, cynhaliwyd Cwrdd Llenyddol, lle darllenwyd cyfrifon y costau adeiladu allan. Roedd cyfanswm y costau yn £400/7/6, a thalwyd y cyfan cyn dydd yr agoriad.

Defnyddiwyd cerrig yr hen gapel i adeiladu’r festri. Hen bulpud Bethania, Aberteifi oedd y pulpud newydd. Y briodas gyntaf i gymryd lle yn yr adeilad newydd oedd priodas Nathan George, Ffynoncoranau a Hannah Evans, Penralltcadwgan.

Yn 1881 bu’r trip Ysgol Sul cyntaf i Boppit. Cludwyd y plant gan ddyn o’r enw John Jenkins “Y Wagen”. Ef oedd yn cludo bagiau teithwyr y rheilffordd o Grymych i Aberteifi yn ei wagen. Cludwyd gweddill yr aelodau mewn amrywiaeth o geirt y gymdogaeth. Yn y cyfnod hwn roedd y capel yn enwog am ei gôr canu. Arweinydd y côr oedd Thomas Morris, Broyan, a chynhaliwyd cyngherddau mewn gwahanol lefydd. Roedd pedwarawd poblogaidd yn eu plith hefyd - sef Thomas Morris, Nathan George a dwy ferch o’r Gaer.

Dechreuodd y Parch William Cynon Evans ei weinidogaeth ym Mhen Y Bryn a Phenuel yn 1885. Y swyddogion ar y pryd oedd John James (Ysgrifennydd), John Gwyon (Trysorydd) a William Lewis (Arweinydd y Gan). Roedd gan y gweinidog gryn ddiddordeb mewn cerddoriaeth, a chadwai ddosbarthiadau mewn gwahanol fannau. Dywedir ei fod wedi llwyddo i godi safon gerddorol cymdogaeth gyfan drwy ei ymdrechion. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu y cylch ym Mhen Y Hen PenybrynBryn ar Fedi 22ain , 1889. Hon oedd y drydedd gymanfa yn y cylch, y gyntaf i’w chynnal yng nghapel Pen Y Bryn, a’r gyntaf i gyhoeddi rhaglen. Y Parch William Cynon Evans oedd arweinydd y bum Gymanfa gyntaf gan nad oedd organ i’w chael yn y capeli.

 

Glyndwr Watkins Ymadawodd y gweinidog â’r ardal yn 1892. Bu’r Parch EdwinParch Glyndwr Watkins Watkins yng wasanaethu rhwng 1896 a 1901, a’r Parch Glyndwr Watkins yng wasanaethu rhwng 1903 a 1906. Ef oedd y gweinidog yn ystod y Diwygiad 1904-1905.

 

 

Hen Ddiaconiaid PenybrynYm mis Hydref 1906, cafwyd organ am y tro cyntaf. Ar ddydd Calan 1907, cynhaliwyd cwrdd cystadleuol, adrodd a chanu, gan aelodau’r Ysgol Sul, er mwyn codi arian tuag at gostau’r organ. Yn dilyn cwrdd tebyg, yn Ysgol Sul Bethlehem, Trefdraeth a Hermon, Abergwaun, casglwyd £10/10/ - i drysorfa’r organ.

Derbyniodd y Parch John Thomas alwad i weinidogaethu ar yr eglwys yn 1910. Yn ystod ei gyfnod ef, sefydlwyd Cymdeithas Y Bobl Ifanc, yn nhymor y gaeaf 1911-1912. Bu’r Gymdeithas yn llewyrchus am nifer fawr o flynyddoedd. Gadawodd y gweinidog yn 1927. Blwyddyn ar ôl hyn, cafwyd golau trydan i’r capel. Costiodd y gwaith tua £500 a chliriwyd y costau cyn dydd yr agoriad.

 

Yn 1930, daeth y Parch A. H. Rees i’r ardal ar ol treulio cyfnod byr yn y Gogledd. Un oA H Rees Gwmaman, Aberdâr oedd Mr Rees, a phriodol, felly, oedd y gwahoddiad a estynnwyd i’r Parch S. J. Leeke, gweinidog Capel Seion, Cwmaman, i gymryd rhan yn y cyfarfodydd sefydlu a Hearsegynhaliwyd ym mis Tachwedd o’r flwyddyn honno. Ymgartrefodd Mr a Mrs Rees yng Nghilgerran lle magwyd eu tair merch, a bu Mr Rees yn weinidog ar Eglwysi Pen Y Bryn a Phenuel am 36 o flynyddoedd.

 

Yn 1969, dechreuodd y Parch T. R. Jones ei weinidogaeth ym Mhen Y Bryn, gan uno Pen Y Bryn unwaith eto gyda Chapel T R Jones ifancEbeneser o dan yr un gweinidog. Cynhaliwyd y cyrddau sefydlu ym mis Medi, 1969 a chyrddau dathlu ei chwarter canrif yn yr eglwys ym mis Gorffenaf, 1994. Daeth y gweinidog yn Llywydd ar Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1997.

Yn ystod gweinidogaeth y Parch T. R. Jones, llwyddodd y chwaer ddawnus Glenys Lewis yn arholiadau’r Undeb, ac y mae galw mawr am ei gwasanaeth ym mhulpudau y broydd hyn.

[Ddaw’r hanes uchod allan o waith Gaynor Jenkins yn Lawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, 27ain Gorffennaf, 1997.]

Mewn pwyllgor, a gynhaliwyd yng Nghapel Bethabara, nos Lun, Chwefror 7ed 2005, ffurfiwyd gofalaeth newydd o bedair eglwys - sef Bethabara, Blaenffos, Pen Y Bryn a Seion, Crymych.
Dangosodd pawb a oedd yn bresennol, yn unfrydol
, trwy bleidlais agored, eu bod nhw’n awyddus i symud ymlaen, a phenderfynwyd y noson honno, i alw gweinidog.

Trefnwyd oedfa undebol arbennig i nodi’r uno a bodolaeth yr ofalaeth newydd, gogyfer â Ionawr 8fed 2006, gyda’r diweddar Barchedig T.R.Jones yn pregethu. Cafwyd oedfa fendithiol a chalonogol, gyda neges y bregeth yn bwrpasol i’r achlysur.

Estynnwyd gwahoddiad i Roger Thomas Morgan, a oedd ar y pryd, yn fyfyriwr yng Nghaerdydd,Roger a Sheila i bregethu yn y cylch. Daeth y Parch a’i briod Sheila yn ystod mis Awst 2006, a phregethu yng Nghapel Seion, Crymych, ond yr oedd broses o sefydlu y Parch wedi dechrau lan yn ardal y cymoedd.

Profodd y flwyddyn 2008, yn fwy calonogol - roedd aelodau’r Ofalaeth yn dal yn awyddus iawn i gael gweinidogaeth, ac yn gweddïo’n daer am arweiniad a chymorth. Dyma enw’r Parchedig Roger Thomas Morgan yn dod i’r golwg eto yn ystod cyfarfod mis Ebrill, pan hysbyswyd yr aelodau bod Mr Emrys Thomas, Blaenffos, wedi sicrhau ei wasanaeth am yr ail dro, ar gyfer ddydd Sul, Mehefin 22ain. (2008). Braf yw gallu nodi bod pawb wedi eu boddloni gyda’r gwasanaeth. Penderfynwyd galw y Parch Roger Thomas Morgan i arwain y pedair eglwys. Heb wastraffu dim amser, sgrifennwyd y llythyr, a phostiwyd yr amlen yn cynnwys yr alwad, gyda stamp dosbarth cyntaf arni. Yn cyd-fynd â’r llythyr pwysig hwnnw, oedd ein gobeithion a’n gweddïau ninne fel gofalaeth.

Ac ar ddydd Sul, ynghanol mis Awst, 2008, estynnwyd gwahoddiad i’r Parchedig Roger ddod i Eglwys Blaenffos, i weinyddu’r ordinhad o fedydd. Cafwyd oedfa deimladwy ac effeithiol iawn, ac yn sicr, teimlwyd presenoldeb Duw. Yn goron ar weithgareddau’r bore hwnnw, fe wireddwyd breuddwyd aelodau’r Ofalaeth, pan wnaeth Y Parch Roger Morgan, ar lafar, dderbyn yr alwad yn gadarnhaol, i ddod atom i’n bugeilio yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Penderfynwyd cyhoeddi’r newydd da mewn oedfa undebol, y Sul canlynol, a chawsom y fraint o gynnal pwyllgor yng nghwmni Roger a Sheila, a’r Parch. Peter Thomas, mis Medi, pan fynegodd Ysgrifennydd yr Undeb ei falchder am drefniant cylch ein Heglwysi i’r dyfodol, a’i fod yn ymfalchïo bod yr alwad wedi’i hateb yn gadarnhaol. Dechreuodd y Parch Roger Thomas Morgan ar ei weinidogaeth ym Mhen Y Bryn a’r cylch, ddiwedd Hydref.

 


Nol i'r top / Back to top of page
Am wybodaeth bellach cysylltwch a’r Parch Rhosier Morgan
- Ffôn  07896937858
For further imformation please contact Rev Rhosier Morgan - Phone  07896937858


E bost / E mail: rhosiermorgan@googlemail.com